Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn trafod cynnig yn galw ar i Lywodraeth Prydain i drefnu Pleidlais Y Bobl, yn cynnwys yr opsiwn i aros i fewn yn yr Undeb Ewropeaidd, yn y cyfarfod llawn nesaf o'r Cyngor.
Credwn fod y wybodaeth sydd wedi dod i'r fei ers y refferendwm yn 2016 yn taflu goleuni newydd ar Brexit ac y dylai pobl gael yr hawl i wneud penderfyniad ar ein perthynas a'r Undeb Ewropeaidd gyda'r wybodaeth newydd yma.
Rydym yn cefnogi'r galwad ar i Gyngor Sir Ddinbych i gefnogi Pleidlais y Bobl a ddylai gynnig yr opsiwn o aros i fewn yn yr UE.
Gallwch weld y cynnig yma.