Ymunwch a thim Plaid Cymru er mwyn gwella ansawdd bywyd pawb yn ein cymunedau.
Dyda'n gilydd fe wnawn ni wahaniaeth er gwell.
Newyddion diweddaraf
Pencampwr Corwen yn sefyll dros y Blaid
Mae Plaid Cymru wedi dewis Alan Hughes fel ymgeisydd ar gyfer is-etholiad Corwen ar Fawrth 18fed.
Galwyd yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth cynnar Huw Jones, a adnabwyd fel Mr Corwen, ym mis Mawrth y llynedd. Gwasanaethodd Huw Jones fel Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros ward Corwen er 2008.
Darllenwch fwy

Cynlluniau i werthu tir yn Nimbych yn cael eu hatal
Bydd rhaid i Gabinet Annibynnol/Ceidwadol Cyngor Sir Ddinbych ail edrych ar eu cynlluniau i werthu tir Cymgor ger Ysgol Pendref, Dinbych, yn dilyn ymyrraeth gan bwyllgor craffu y Cyngor Sir.
Cytunodd Cabinet y Cyngor Sir i werthu bron i 7 acer o dir yn Nimbych yn eu cyfarfod diwethaf ar 22ain o Fedi. Serch hynny, defnyddiodd y Cynghorydd Glenn Swingler, Dinbych Uchaf, a'i gyd aelodau Plaid Cymru eu pwerau i alw'r penderfyniad i fewn er mwyn ei graffu.
Darllenwch fwy

Goleuo lleoliadau o bwys yn Sir Ddinbych i gefnogi #BLM
Bydd rhai o adeiladau mwyaf eiconig Sir Ddinbych yn cael eu goleuo yn broffor er mwyn dangos cefnogaeth i ymgyrch 'Black Lives Matter' sy'n galw am ddieddu disgrimineiddio a chyddraddoldeb i bobl du ac o gefndiroedd ethnig.
Darllenwch fwy