Roedd tîm Glenn Swingler allan yn Y Rhyl heddiw ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch i'w ethol i gynrychioli Dyffryn Clwyd yn etholiadau Senedd Cymru 2021 sy'n digwydd yfory. Cymrodd Glenn y cyfle i bwysleisio rhai o'r materion oedd yn bwysig i'r etholwyr ac a fydd ar frig ei restr o flaenoriaethau os caiff ei ethol. Dywedodd "bod y tlodi mae'n weld mewn rhannau o'r etholaeth yn ei boeni'n fawr. Roedd angen rhaglen enfawr o adeiladu tai cymdeithasol. Tynnodd sylw at y ffaith mai un o amcanion Plaid Cymru yn eu maniffesto, sydd a'i gost wedi ei amcangyfrif yn fanwl, oedd i greu 50,000 o gartrefi cyhoeddus yn ystod y pum mlynedd nesaf – 30,000 o dai cyngor neu dai cymdeithasol eraill, 5,000 o gartrefi rhent-gost ar rent canolradd, a 15,000 o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy i’w prynu.
Fel Gweithiwr Gofal Iechyd Meddwl mae Glenn yn ymfalchïo yn y Maniffesto sy'n rhoi blaenoriaeth uchel i Iechyd Meddwl a Gofalu am Bobl Cymru yn gyffredinol. Roedd yn arbennig o falch o weld y cynnig i ehangu’r cymorth a gynigir i blant a phobl ifanc mewn gofal i 25 oed ar frig rhestr amcanion y Blaid ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae'n falch hefyd o gefnogi'r nod o greu un Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter