Nid cefnogwyr y Blaid Lafur yn unig sy'n newid i gefnogi Plaid Cymru. Pan oedd Glenn Swingler, ein hymgeisydd yn etholaeth Dyffryn Clwyd, ac aelodau o'i dîm ymgyrchu ar fin cwblhau dosbarthu taflenni i'r tai olaf yn Ninbych bu iddo gyfarfod a pleidleisiwr newydd i Blaid Cymru. Roedd Dean Fearnley yn arfer bod yn gefnogwr brwd o'r Democratiaid Rhyddfrydol ond mae o wedi newid ei deyrngarwch i Blaid Cymru. Stopiodd wrth basio yn ei gar i siarad efo ni ac roedd wrth ei fodd i ddarganfod fod Glenn hefo ni a chael cyfle i siarad efo'r ymgeisydd.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter