Eisteddfod Port
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am gartref ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2021.
Mae'r Eisteddfod yn rhoi chwistrelliad economaidd o hyd at £8m i'r gymuned leol.
Nid yw'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld a Phorthmadog ers 1987.
Rydym yn cefnogi galwad y Cyng. Nia Jeffreys i ddod a'r Eisteddfod Genedlaethol i Borthmadog yn 2021.
Ychwanegu signatureGwrthwynebwch dympio gwastraff niwclear
Mae Llywodraeth Llafur Cymru a Llywodraeth Ceidwadol San Steffan yn gofyn i gymunedau ar draws Cymru i ystyried caniatau i gael gwastraff niwclear wedi ei gladdu yma am swm o arian.
Bydd y deunydd ymbelydrol yma yn parhau i fod yn beryglus i'n hiechyd ac i'r amgylchedd am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Rydym yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech gan y ddwy Lywodraeth i lwgrwobrwyo ein cymunedau i dderbyn y gwastraff ymbelydrol yma.
Peidiwch a lluchio'r di-gartref allan o'r Westminster, Rhyl
Cyngor Sir Ddinbych: peidiwch a lluchio'r di-gartref allan o'r Westminster, Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu lluchio pobl digartref sydd yn aros yng Ngwesty'r Westminster, Rhyl dros dro, allan o'r gwesty oherwydd fod "potensial i'w presenoldeb gael effaith negyddol ar y rhaglen adfywio a thwristiaeth yn y dref".
Darllenwch fwyCefnogi pleidlais y bobl
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn trafod cynnig yn galw ar i Lywodraeth Prydain i drefnu Pleidlais Y Bobl, yn cynnwys yr opsiwn i aros i fewn yn yr Undeb Ewropeaidd, yn y cyfarfod llawn nesaf o'r Cyngor.
Credwn fod y wybodaeth sydd wedi dod i'r fei ers y refferendwm yn 2016 yn taflu goleuni newydd ar Brexit ac y dylai pobl gael yr hawl i wneud penderfyniad ar ein perthynas a'r Undeb Ewropeaidd gyda'r wybodaeth newydd yma.
Rydym yn cefnogi'r galwad ar i Gyngor Sir Ddinbych i gefnogi Pleidlais y Bobl a ddylai gynnig yr opsiwn o aros i fewn yn yr UE.
Gallwch weld y cynnig yma.