Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn cael sylw cenedlaethol a lleol

Ar y diwrnod y bydd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn ymweld a chartref ei rieni i son am weledigaeth Plaid Cymru i gyflawni newidiadau uchelgeisiol i ofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru mae ein hymgeisydd yn etholaeth dyffryn Clwyd, Glenn Swingler, allan yn ymgyrchu yn Rhyl.

Dywedodd Mr Swingler ei fod, yn ei swydd fel Gweithiwr Gofal Iechyd Meddwl ac yn ei waith fel Cynghorydd Sir wedi gweld yr angen am wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol di-dor. Dywedodd " Mae hyn wedi cael ei drafod ers blynyddoedd ond does dim wedi newid. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau fod hyn yn cael ei wireddu."

Dywedodd Mr Price fod ei fam yn gofalu am ei dad sy'n dioddef o ddementia ac ei fod wedi "gweld a'i lygaid ei hun" y frwydr sy'n wynebu llawer o deuluoedd.

"Byddai Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn sicrhau darpariaeth di-dor ar lefel lleol, yn dod a llywodraeth leol a'r byrddau iechyd at eu gilydd mewn partneriaethau gofal rhanbarthol newydd," dywedodd Mr Price. Bydd Plaid Cymru yn sefydlu comisiwn i ystyried sawl opsiwn ar gyfer ariannu'r gwasanaeth.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Dyfrig Berry
    published this page in Newyddion 2021-04-16 14:58:23 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.