Bydd rhaid i Gabinet Annibynnol/Ceidwadol Cyngor Sir Ddinbych ail edrych ar eu cynlluniau i werthu tir Cymgor ger Ysgol Pendref, Dinbych, yn dilyn ymyrraeth gan bwyllgor craffu y Cyngor Sir.
Cytunodd Cabinet y Cyngor Sir i werthu bron i 7 acer o dir yn Nimbych yn eu cyfarfod diwethaf ar 22ain o Fedi. Serch hynny, defnyddiodd y Cynghorydd Glenn Swingler, Dinbych Uchaf, a'i gyd aelodau Plaid Cymru eu pwerau i alw'r penderfyniad i fewn er mwyn ei graffu.
Meddai'r Cyng. Swingler: "Roedd y Cabinet yn edrych i werthu tir cyhoeddus i'r prynnwr uchaf, fyddai'n golygu fod datblygwr yn medru adeiladu bron i gant o dai anfforddiadwy a phocedi'r elw i'w hun. Ni fyddai hyn yn niddordeb y gymuned ac nid dyma sydd ei angen ar y gymuned yn Nimbych.
“Dylai'r Cyngor sicrhau fod y tir yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai Cyngor, neu weithio efo cymdeithas dai er mwyn adeiladu tai sydd yn ateb yr angen yn lleol. Dylid rhoi'r angen cymunedol yn flaenaf bob amser.”
Meddai'r Cyng. Rhys Thomas, Dinbych Isaf, "Ymddengys fod y cabinet o'r farn eu bont yn medru gwerthu'r tir i ddatblygwr tai. Ond mae'n rhaid i ddatblygiadau tai weddu i anghenion cymunedol, nid fel rhan o gynllun busnes cwmni datblygu tai. Mae hwn yn ddarn o dir o dan berchnogaeth gyhoeddus a dylai cael ei ddefnyddio i'r debenion hynny, megis datblygu tai i ateb y galw."
Mae Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych wedi ymgyrchu ers tro yn erbyn gor-ddatblygu mewn cymunedau, ac wedi galw am dai i gael eu datblygu yn unol a'r anghenion gan sicrhau eu bont yn fforddiadwy.
Ychwanegodd y Cyng. Swingler: "Daeth yn amlwg fod yna opsiynau eraill ar gael. Er enghraiifft yn hytrach na gwerthu'r cyfan fel un uned, gellir ei werthu mewn parseli llai a fyddai yn rhoi cyfle i ddatblygwyr bach lleol ac i asiantaethau tai yn unol a'r angen. Ein hegwyddor craidd ydy y dylai datblygiadau fod er budd cymunedol, nid er mwyn creu elw. Rwy'n falch fod y pwyllgor craffu wedi cytuno ac y bydd yn rhaid i'r Cabinet ail edrych ar y penderfyniad."
Cytunodd y Pwyllgor Craffu Cymunedau na ddylai'r gwerthiant fynd yn ei flaen, ac y dylai'r Cabinet ail edrych ar y penderfyniad. Argymhellodd y pwyllgor y dylid edrych ar y posibilrwydd o werthu'r tir mewn parseli llai o faint, edrych i weld os oed yna grantiau ar gyfer tai cymunedol ar gael efo'r Llywodraeth, a gohirio'r penderfyniad am ddeuddeng mis er mwyn edrych ar yr opsiynau.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter