Mewn ymateb i’r newyddion fod Cyngor Sir Ddinbych am ddatblygu rhagor o dai fforddiadwy, meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas ar ran Grŵp Plaid Cymru: “Rydym wedi cymryd pob cyfle posibl i atgoffa’r Cabinet ar Gyngor Sir Ddinbych o’r angen am dai fforddiadwy ar gyfer pobl Sir Ddinbych."
“Rydym felly yn falch gweld y datblygiadau hyn, ac yn gobeithio mai’r camau cyntaf ydynt i ddatrys anghenion tai'r Sir. Mae ganom ni uchelgais yn y Blaid i weld Sir Ddinbych yn cael ei weld fel y Sir sydd yn arwain yn y maes yma.
“Mae yna ddwsinau o deuluoedd yn byw mewn llety dros dro yn y Sir, sydd yn aml yn anaddas ac ymhell o’u cymunedau. Yn aml mae’r plant yn methu ysgol ac oherwydd bod y bobl yn ddigartref nid oes modd iddynt gael swyddi. Mae’r sefyllfa yma yn parhau blwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda chost gynyddol i drethdalwyr y Cyngor. Y ffordd orau i fynd i’r afael a digartrefedd yw trwy ddarparu tai i bobl ddigartref. Dyna pam mae angen datblygu rhagor o dai fforddiadwy sydd yn ateb yr anghenion yma, ac nid yn adeiladu er mwyn ymateb i anghenion y datblygwyr.”
Mae’r Cyngor hefyd yn lansio cynllun a fydd yn dod a 500 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer preswylwyr.
Rhai o'r datblygiadau sydd wedi eu cymeradwyo:
Yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun - Codi 38 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darpariaeth man agored a’r gwaith cysylltiedig (38 uned fforddiadwy).
The Trefnant Inn, Trefnant, Dinbych - Codi 13 annedd fforddiadwy gan gynnwys mynedfa, parcio a gwaith cysylltiedig (13 uned fforddiadwy)
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter