Croesawu datganiad i beidio ag uno Cynghorau

Mae Plaid Cymru yn Sir Ddinbych wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru na fyddan nhw'n parhau gyda'u cynlluniau i orfodi Cynghorau i uno. 

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol ei fod yn hapus i "dynnu'r map yn ol" ac na fyddai ad-drefnu Cynghorau, yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru yr wythnos diwethaf. 

 

 

Mae Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau.

Meddai arweinydd Grwp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych: Dyma'r pedwerydd gwaith i'r Llywodraeth Lafur yma geisio ail-drefnu Llywodraeth Leol, a phob tro mae arian ac amser prin ein Cynghorau yn cael eu gwastraffu gan fod y Llywodraeth wedyn yn newid eu meddyliau. Fe wnaethom ni yn y Blaid ddadlau yn erbyn y cynlluniau yma gan y byddai wedi golygu ein bod ni fel Cynghorwyr yyn ymbellau oddi wrth ein etholwyr ac felly yn llai atebol.

"Ni chawsom ein hargyhoeddi y byddai uno cynghorau yn arbed arian. Byddai'r ail-drefnu ei hun yn gostus. Mae'n rhaid iddyn nhw feddwl unrhyw gynlluniau drwyddo os ydyn nhw am gael datrysiad parhaol ac effeithiol.

“Os ydy'r Llywodraeth Lafur yma o ddifri am ddatrys y probleau sy'n wynebu ein Cynghorau Sir yna rhaid iddyn nhw ddechrau eu harianu yn iawn er mwyn iddyn nhw fedru cynnal y gwasanaethau cyhoeddus heb orfod torri ar gyllidebau drwy'r amser. Mae'r toriadau yma wedi brifo pobl ar draws Sir Ddinbych. Rhaid i Lafur roi digon o arian er mwyn medru cynnal gwasanaethau cyhoeddus."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.