Pryderon am ddyfodol Cynghorau Cymuned
Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i ail-drefnu Llywodraeth Leol yn wastraff amser ac arian, yn ol Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych.
Cyfarfu Cyngor Sir Ddinbych heddiw er mwyn cytuno ar eu hymateb swyddogol i Bapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth Leol.
Dywedodd Arweinydd Grwp Plaid Cymru, y Cyng. Arwel Roberts: "Mae'r llywodraeth Llafur yn ceisio gorfodi Cynghorau i ymuno yn erbyn eu hewyllys ac yn erbyn ewyllys y bobl a'r farn ddemocrataidd.
“Pan ystyriwyd hyn bedair mlynedd yn ol defnyddiodd Sir Ddinbych a Sir Conwy eu hadnoddau prin i ddatblygu cynllun i uno'r ddwy Sir ar gais y Llywodraeth. Serch hynny lluchiwyd y cyfan yn ol i'n hwynebau gan y Llywodraeth Lafur a gollyngwyd yr holl gynllun. Rwan mae'r Llywodraeth yn gofyn i ni wneud yn union yr un fath eto, ond y tro yma yn ein bygwth trwy ddweud y caiff Cynghorau eu huno'n orfodol os nad ydym ni'n cytuno a nhw. Mae'n wastraff adnoddau ac yn sarhaus.
“Mae angen i'r Llywodraeth Lafur ddechrau dangos parch tuag at democratiaeth leol a sylweddoli fod pobl yn gwerthfawrogi'r cyswllt yna gyda'u cynrychiolwyr lleol. Byddai'r cynnigion yma sy'n cael eu gorfodi o'r top i lawr yn ymbellhau gwleidyddion ymhellach fyth oddi wrth y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae Cynghorau Sir ymhell o fod yn berffaith, fel rydym ni yma yn y Blaid yn dweud yn gyson, ond nid yr ateb ydy eu gwneud nhw'n llai democrataidd ac ymhellach fyth i ffwrdd. Os ydy Llywodraeth Lafur Cymru o ddifri ynghylch mynd i'r afael a'r problemau yn ein Llywodraeth Leol yna rhaid iddyn nhw ddechrau ein ariannu ni yn iawn, yn hytrach na'r toriadau cyson yma yr ydym ni wedi eu gweld dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae'r Llywodraeh Lafur wedi colli golwg o'r pethau pwysig, sef safon ein gwasanaethau. Mae angen i Gynghorau edrych i gydweithio fwy gyda'u cymdogion a gwell rhannu o arferion da er mwyn galluogi Cynghorau i fod y gorau y gallan nhw fod."
Rhybuddiodd Plaid Cymru hefyd y dylai Cynghorau Tref a Chymuned baratoi am orchmynion gan lywodraeth Cymru i uno hefyd. Dywedodd y Blaid y byddai hyn yn arwain at nifer o gymunedau yn colli eu hunaniaeth.
Meddai'r Cyng. Roberts: Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud pethau'n anodd iawn i gynghorau tref a chymuned gyda rheolau newydd ynghylch cyflogi clerciaid a thaliadau i Gynghorwyr. Mae rhai o'r Cynghorau lleiaf ar ben eu tennyn, ac yn ei chael yn anodd i gadw i fyny gyda'r disgwyliadau newydd. Mae nhw'n dweud eu bont yn bryderus fod yna gynllun gan y Llywodraeth i'w gorfodi i uno, byddai'n golygu fod nifer o gymunedau yn colli eu hannibyniaeth a'i llais democrataidd. Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch eu bwriadau ar gyfer ein cynghorau tref a chymuned."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter