Mae pobl yn Sir Ddinbych yn cael eu hanog i ystyried mabwysiadu plant er mwyn sicrhau fod pob plentyn yn derbyn y cariad a sefydlogrwydd sydd ei angen arnynt er mwyn medru byw bywyd llawn a bodlon.
Gwnaeth Grwp Plaid Cymru ar y Cyngor Sir yr alwad er mwyn cydfynd ag Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol.
Mae gan y Cyng. Rhys Thomas brofiad personol o fabwysiadu plant ac fe gododd y mater gyda'r grwp Plaid Cymru yr wythnos diwethaf.
Meddai'r Cyng. Thomas: "Mewn adeg o gyni mae nifer o deuluoedd yn canfod eu hun o dan fwy o straen nag erioed o'r blaen. Mae hyn, o bosib, yn un o'r rhesymau pam fod yna gynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o blant sydd yn gorfod cael eu cymryd o dan ofal Llywodraeth Leol, yma yn Sir Ddinbych ac yn ehangach ar draws Cymru.
“Gall nifer o'r plant yma fyth fynd yn ol at eu teuluoedd a mabwysiadu ydy'r unig ffordd i roi y cariad a sefydlogrwydd sydd angen ar bob plentyn.
“Mae Plaid Cymru yn cefnogi yr arbenigwyr hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu yng ngogledd Cymru. Mae'r ffugurau diweddaraf yn dangos fod yna dros 300 o blant ar y rhestr mabwysiadu yng Nghymru ac mae dros 60 o blant wedi bod yn aros am rieni maeth ers dros 12 mis.
“Rydym yn eich anog chi i ystyried os fedrwch chi gynnig cartref i blentyn sy'n aros i gael ei fabwysiadu.
“Nid yw mabwysiadu plentyn yn hawdd ond mae yna gymorth profesiynol ar gael i bobl sydd am fabwysiadu."
Dywed Gwasanaethau Mabwysiadu Gogledd Cymru: "Mae rhai bobl yn gyndyn o ymholi ynghylch mabwysiadu oherwydd eu bont yn teimlo na fyddan nhw'n gymwys, ac yn argyhoeddi eu hunen oherwydd siarad gwag a myth. Felly rydym yn eich anog i siarad gyda ni yn gyntaf. Rydym yn fwy na haous i drafod unrhyw bryderon neu faterion allai fod gyda chi."
Dylai'r rhai hynny sy'n ystyried mabwysiadu gysylltu gyda'r Gwasanaeth Mabwysidau Gogledd Cymru ac fe fyddan nhw'n derbyn pecyn gwybodaeth ynghyd a thaflen ymateb: 0800 085 0774.
Gall y rhai hynny sydd am gefnogi wythnos mabwysiadu wneud hynny drwy ddefnyddio'r hashnod #CefnogiMabwysiadu ar wefannau cymdeithasol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter