Mae cynlluniau Cyngor Sir Ddinbych i gyflwyno pwyntiau gwefru trydan yn y maes parcio newydd yn Y Rhyl wedi eu croesawu gan Glenn Swingler, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Nyffryn Clwyd.
Dywedodd y Cyng. Swingler, cynghorydd yn Ninbych Uchaf a Henllan: "Galwodd Plaid Cymru ar y Cyngor Sir i gynyddu y nifer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan drwy'r Sir yng Ngorffennaf 2018. Ym mis Chwefror eleni cyhoeddodd y Cyngor gynlluniau i gynyddu y nifer o bwyntiau gwefru ond cyfyngu eu defnydd i gerbydau'r Cyngor a galwodd Plaid Cymru ar iddynt fod ar gael at ddefnydd y cyhoedd. Felly, 'rydym yn croesawu'r ffaith fod y Cyngor wedi cymryd sylw o'n pryderon ac yn cymryd camau i gydnabod datganiad diweddar y Cyngor ar Argyfwng Hinsawdd a gyd-noddwyd gan Blaid Cymru."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter