Pencampwr Corwen yn sefyll dros y Blaid

Mae Plaid Cymru wedi dewis Alan Hughes fel ymgeisydd ar gyfer is-etholiad Corwen ar Fawrth 18fed. 

Galwyd yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth cynnar Huw Jones, a adnabwyd fel Mr Corwen, ym mis Mawrth y llynedd. Gwasanaethodd Huw Jones fel Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros ward Corwen er 2008. 

Dywedodd Mr Hughes: “Dwi'n ei weld yn anrhydedd i fod wedi cael fy newis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer is-etholiad ward Corwen ar Fawrth 18. Nid oeddwn i na neb arall am weld yr is-etholiad yma. Roeddem yn ffodus i gael Huw Chick fel ein cynrhychiolydd yn Neuadd y Sir. Ond rwy'n rhoi fy enw ymlaen fel ymgeisydd Plaid Cymru i olynu Huw gyda balchder, a gyda'r gobaith i fedru parhau a'r gwaith da yr oedd o'n ei wneud." 

Mae Alan Hughes wedi byw yng Nghorwen trwy gydol ei fywyd, yn dad ac yn wr priod. "Rwy'n adnabod yr ardal fel cefn fy llaw gan fy mod wedi cael fy ngeni a fy magu yma, ac wedi dewis magu fy nheulu yma hefyd", meddai Mr Hughes. "Rwyf wedi bod yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ar gyfer plant ac oedolion ers ugain mlynedd, yn hyfforddi a datblygu eraill. Mae fy ngyrfa yn golygu fy mod yn gallu gwerthfawrogi iechyd a lles pawb sydd o'n hamgylch. Mae'r cyfle i hyfforddi eraill a gweld y potensial i ddatblygu pobl a sefydliadau wedi fy ysbrydoli sydd wedi arwain fy nghyfraniadau cymunedol, a bydd y parhau i fy ysbrydoli.

Nododd Alan rhai pynciau o bwys fydd yn flaenoriaeth iddo. “Mae yna amryw o faterion sydd angen mynd i'r afael a nhw yn yr ardal, yn benodol felly y diffyg buddsoddiad yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae tai yn flaenoriaeth. Mae angen mwy o dai ar gyfer pobl leol a gwella ansawdd y stoc dai. Mae cysylltiadau trafnidiaeth hefdyd yn broblem a safon ein ffyrdd. Yn ychwanegol i hyn, fel tad i ddau wr ifanc, byddwn yn bencampwr i anghenion ein pobl ifanc yma."

Meddai Llyr Gruffydd AS Gogledd Cymru, "Mae Alan yn un o feibion Corwen ac mae'r ardal yn rhan ohono. Mae ganddo gariad amlwg at ei gynefin yn Nyffryn Dyfrdwy, ac am wella ansawdd bywydau pobl yng Nghorwen, Glyndyfrdwy, Carrog, Llidiart y Parc a'r Ddwyryd. Bydd yn dod a chyfoeth o brofiad a doethineb i'r rol."

Mae blaenoriaethau Alan yn cynnwys:

  • Gwella gwasanaethau trafnidiaeth,
  • Mwy o dai i bobl leol ,
  • Gwell cynnal a chadw ar y ffyrdd, e,
  • Mwy o gefnogaeth i fusnesau lleol,
  • Cynyddu cyllideb ysgolion,
  • Buddsoddi yng Nghysgod y Gaer a Llygadog, 
  • Cynyddu gwasanaethau cefnogi pobl ifanc 

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mabon ap Gwynfor
    published this page in Newyddion 2021-02-24 12:28:49 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.