Ni ddylai cau hufenfa olygu diwedd cynhyrchu llaeth yn Llandyrnog

Dylai cau'r hufenfa yn Llandyrnog ddim olygu diwedd ar brosesi llaeth ar y safle, yn ol Aelod Cynulliad Gogledd Cymru Plaid Cymru Llyr Gruffydd.  

Fe wnaeth ei sylwadau yn dilyn vcyfarfod gyda chynrychiolwyr grwp Arla, y cwmni cydweithredol rhyngwladol sydd yn cael ei redeg gan ffermwyr o ar draws Ewrop, ar y safle heddiw. 

Gorfennodd yr ymgynghoriad gyda'r gweithlu ar ddydd Llun a bydd trafodaethau unigol yn dirwyn i ben ar ddiwedd y mis. Cynhelir ffair swyddi gyda 20 busnes lleol ym Mis Awst ar gyfer gweithwyr sydd yn parhau i chwilio am waith, gyda nifer bychan o weithwyr eraill a phrentisiaid o bosib yn cael eu hail-leoli i ffatrioedd eraill Arla yn yr Alban a Dyfnaint. 

Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'n glir fod yna gryn ansicrwydd yn y sector brosesi llaeth a thu hwnt oherwydd Brexit ac mae hyn yn dal yn ol unrhyw benderfyniadau hir dymor ar gyfer y safle. Rwyf wedi cael mymryn o sicrwydd o ddeall eu bont am gynnal criw bach iawn o staff yma sy'n golygu y gellir gweld cynhyrchu yn ail-gychwyn yma rhywbryd yn y dyfodol, hyd yn oed os mai cynhyrchu math gwahanol o gaws i'r caws presenol fydd hynny.  

"Rwy'n awyddus i sicrhau fod pob opsiwn yn cael eu cadw yn enwedig wrth ystyried y gwerth ychwanegol y mae prosesi bwyd yn ei roi i'r sector amaeth. Rhaid i ni symud i ffwrdd o'r arfer o dynnu adnoddau craidd allan o Gymru, ac mae cynyddu ein capasiti ein hunen yn gorfod bod yn sail i sector bwyd a diod safon uchel yng Nghymru. 

"Mae gan laeth Cymreig gynnwys protin a braster uchel, sy'n berffaith ar gyfer cynhyrchu caws a menyn. Rwy'n awyddus i weithio gyda ffermwyr a chyrff cydweithredol fel Arla er mwyn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n derbyn ei fod yn anodd gwneud cynlluniau pendant ar gyfer y safle ac unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru tan fod Arla yn dod i benderfyniad. Ond pan fydd yna benderfyniad ar gyfer dyfodol hir-dymor Llandyrnog  mae'n amlwg y bydd rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad gwleidyddol. 

“Mae llawer ohonom yn cofio sut y safodd safleoedd cynhyrchu yr hen Dairy Crest yn segur am bron i ddegawd yn ne orllewin Cymru sawl blwyddyn yn ol, a rhaid i ni sicrhau na fydd hyn yn digwydd yn Llandyrnog".

Diolchodd Mr Gruffydd i gynrychiolwyr Arla am y cyfle i drafod eu cynlluniau ac ymrwymodd i gefnogi unrhyw fenter a fyddai'n dod a swyddi yn ol ac yn cryfhau'r economi leol mewn ardaloedd megis Dyffryn Clwyd. 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.