Ymgyrchwyr yn symud i Brestatyn
Yn dilyn yr ymgyrchu yn Y Rhyl y bore 'ma symudodd ymgeisydd Plaid Cymru Dyffryn Clwyd, Glenn Swingler, a'i dîm i Brestatyn i rannu taflenni a siarad gyda pleidleiswyr lleol. Roedd Glenn yn awyddus i'r ffocws aros ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae mwy am bolisi'r Blaid ar y pwnc hanfodol hwn ar gael ar dudalennau gwe ein maniffesto yn Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol - Plaid Cymru.
Yr wythnos nesaf bydd yn canolbwyntio ar agweddau eraill o 'ofalu am bobl Cymru' ac yn arbennig Iechyd Meddwl sy'n agos at ei galon fel gweithiwr Gofal Iechyd Meddwl ei hun.
Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn cael sylw cenedlaethol a lleol
Ar y diwrnod y bydd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn ymweld a chartref ei rieni i son am weledigaeth Plaid Cymru i gyflawni newidiadau uchelgeisiol i ofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru mae ein hymgeisydd yn etholaeth dyffryn Clwyd, Glenn Swingler, allan yn ymgyrchu yn Rhyl.
Dywedodd Mr Swingler ei fod, yn ei swydd fel Gweithiwr Gofal Iechyd Meddwl ac yn ei waith fel Cynghorydd Sir wedi gweld yr angen am wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol di-dor. Dywedodd " Mae hyn wedi cael ei drafod ers blynyddoedd ond does dim wedi newid. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau fod hyn yn cael ei wireddu."
Dywedodd Mr Price fod ei fam yn gofalu am ei dad sy'n dioddef o ddementia ac ei fod wedi "gweld a'i lygaid ei hun" y frwydr sy'n wynebu llawer o deuluoedd.
"Byddai Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn sicrhau darpariaeth di-dor ar lefel lleol, yn dod a llywodraeth leol a'r byrddau iechyd at eu gilydd mewn partneriaethau gofal rhanbarthol newydd," dywedodd Mr Price. Bydd Plaid Cymru yn sefydlu comisiwn i ystyried sawl opsiwn ar gyfer ariannu'r gwasanaeth.
Ymgyrchu gyda'r ymgeisydd CHTh
Roedd dau o ymgeiswyr Plaid Cymru yn ymgyrchu gyda'u gilydd yn Ninbych prynhawn heddiw. Glenn Swingler, yr ymgeisydd ar gyfer yr etholaeth yn Etholiad y Senedd yn ei filltir sgwar yn croesawu ein hymgeisydd ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Eich ymgeisydd allan yn ymgyrchu
Tro Trefnant oedd hi heddiw i groesawu ymgeisydd Plaid Cymru, Glenn Swingler. Bydd Glenn yn ymweld a phob rhan o'r etholaeth yn ei dro. Bydd yn ôl yn Ninbych pnawn ma yn cyd ymgyrchu gydag Ann Griffith, ein hymgeisydd ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Ymgeisydd Plaid Cymru yn falch o'r Maniffesto
Heddiw cyhoeddodd Plaid Cymru eu Maniffesto ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru ar Fai 6ed. Mae’n faniffesto uchelgeisiol ond gyda’r gost wedi ei gyfrifo’n fanwl, i greu cymdeithas fwy teg a charedig ar gyfer pobl Cymru.
Dywedodd Glenn Swingler, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dyffryn Clwyd “Dwi’n falch o gael sefyll dros blaid sydd a maniffesto mor flaengar ac uchelgeisiol. Fel Cynghorydd dwi’n treulio llawer o’m amser yn helpu pobl gyda phroblemau tai a digartrefedd. Felly dwi’n hynod falch o weld mai un o’r prif bolisïau yw sicrhau 50,000 o dai cymdeithasol neu fforddiadwy. Mae ardaloedd yn yr etholaeth sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru a bydd cynigion fel y £35 i’r teuluoedd tlotaf, torri biliau treth cyngor a help i fusnesau bach yn mynd yn bell tuag at ddatrys hyn. Mae dau ddegawd o Lafur yn llywodraethu yng Nghymru a’r Torïaid yn San Steffan wedi gadael Pobl Dyffryn Clwyd a Chymru gyfan yn brin.”
Mae crynodeb o’r maniffesto yma https://www.plaid.cymru/maniffesto ynghyd â dolenni i lawrlwytho’r maniffesto llawn, fersiynau hawdd i’w darllen a phrint mawr.