newyddion

Diwrnod Olaf yr Ymgyrch

Roedd tîm Glenn Swingler allan yn Y Rhyl heddiw ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch i'w ethol i gynrychioli Dyffryn Clwyd yn etholiadau Senedd Cymru 2021 sy'n digwydd yfory.  Cymrodd Glenn y cyfle i bwysleisio rhai o'r materion oedd yn bwysig i'r etholwyr ac a fydd ar frig ei restr o flaenoriaethau os caiff ei ethol.  Dywedodd "bod y tlodi mae'n weld mewn rhannau o'r etholaeth yn ei boeni'n fawr.  Roedd angen rhaglen enfawr o adeiladu tai cymdeithasol. Tynnodd sylw at y ffaith mai un o amcanion Plaid Cymru yn eu maniffesto, sydd a'i gost wedi ei amcangyfrif yn fanwl, oedd i greu 50,000 o gartrefi cyhoeddus yn ystod y pum mlynedd nesaf – 30,000 o dai cyngor neu dai cymdeithasol eraill, 5,000 o gartrefi rhent-gost ar rent canolradd, a 15,000 o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy i’w prynu.

Fel Gweithiwr Gofal Iechyd Meddwl mae Glenn yn ymfalchïo yn y Maniffesto sy'n rhoi blaenoriaeth uchel i Iechyd Meddwl a Gofalu am Bobl Cymru yn gyffredinol.  Roedd yn arbennig o falch o weld y cynnig i ehangu’r cymorth a gynigir i blant a phobl ifanc mewn gofal i 25 oed ar frig rhestr amcanion y Blaid ar gyfer Iechyd Meddwl.  Mae'n falch hefyd o gefnogi'r nod o greu un Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mwy yn dod atom yn y Blaid

Nid cefnogwyr y Blaid Lafur yn unig sy'n newid i gefnogi Plaid Cymru. Pan oedd Glenn Swingler, ein hymgeisydd yn etholaeth Dyffryn Clwyd, ac aelodau o'i dîm ymgyrchu ar fin cwblhau dosbarthu taflenni i'r tai olaf yn Ninbych bu iddo gyfarfod a pleidleisiwr newydd i Blaid Cymru. Roedd Dean Fearnley yn arfer bod yn gefnogwr brwd o'r Democratiaid Rhyddfrydol ond mae o wedi newid ei deyrngarwch i Blaid Cymru. Stopiodd wrth basio yn ei gar i siarad efo ni ac roedd wrth ei fodd i ddarganfod fod Glenn hefo ni a chael cyfle i siarad efo'r ymgeisydd.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Adam Price yn yr etholaeth

https://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/plaidcymruclwyd/pages/162/attachments/original/1619970936/adam.jpg?1619970936

Yn ddiweddar ymwelodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, â'r etholaeth i gyfarfod tîm ymgyrchu ein hymgeisydd Glenn Swingler. Dyma fideo o'r sgwrs gafodd Adam gyda Glenn.

 

 

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae rhywbeth yn digwydd

Mae rhywbeth yn digwydd. Mwy a mwy o bobl eisiau posteri a phlacardiau ein hymgeisydd Glenn Swingler. Nifer fawr wedi eu codi dros y dyddiau diwethaf. Nifer fawr o gyn gefnogwyr Llafur yn troi at Blaid Cymru a nid yn unig yn addo pleidlais ond yn cerdded y strydoedd hefo ni.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Timau allan yn Rhuddlan a Dinbych bore 'ma

Bu timau'r Blaid allan yn rhannu taflenni a siarad a phobl yn Rhuddlan a Dinbych bore 'ma.  Efo llai na pythefnos ar ôl mae'r ymgyrch yn prysuro.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.