Gall Cyngor Sir Ddinbych chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd wrth i'r Cyngor edrych ar y posibilrwydd o gynyddu'r nifer o bwyntiau gwefru yn y Sir, ac asesu'r potensial o ddefnyddio tanwydd amgen yn eu cerbydau.
Galwodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, Llandrillo/Cynwyd, ar i'r Cyngor edrych ar y mater o bwyntiau gwefru a'r tanwydd a ddefnyddir yng ngherbydau'r Cyngor. Bydd swyddogion y Cyngor yn llunio papurau ar y materio hyn ar er mwyn i Bwyllgor sgriwtini eu hystyried.
Meddai'r Cyng. ap Gwynfor: “Rhaid i ni dynnu ein hun i ffwrdd o danwydd ffosil, sy'n achosi niwed anferthol i'r amgylchedd. Cynhesu byd eang, sydd yn cael ei achosi gan ddynoliaeth, yw un o'r bygythiadau mwyaf yn y byd heddiw. Mae'n achosi trafferthion dybryd i gymunedau ar y glannau, yn effeithio ar ein iechyd a'n lles ni, ac yn achos rhyfelloedd ar draws y byd hefyd. Mae disgwyl i lefelau'r mor godi, fydd yn arwain at niwed dychrynllyd i gymunedau glannau Sir Ddinbych dros y degawdau nesaf os na wnawn ni oll gymryd camau i wella'r sefyllfa.
“Mae'n amlwg hefyd fod yna gamau yn cael eu cymryd i symud cymdeithas i ffwrdd oddi wrth gerbydau tanwydd ffosil, felly mae angen i Sir Ddinbych baratoi ar gyfer adeg pan fydd cerbydau diesel a phetrol yn brin ac adeiladu fflyd o gerbydau nad sy'n ddibynol ar danwydd ffosil.
"Mae ymchwil a wnaed gan yr HSBC yn dangos mai dim ond 31 pwynt gwefru a arienir yn gyhoeddus sydd yna yng Nghymru, o'i gymharu a 2,862 yn Lloegr, 743 yn yr Alban a 185 yng Ngogledd Iwerddon. Golyga hyn dim ond 1 pwynt gwefru cyhoeddus am bob 100,000 o bobl yng Nghymru."
Mae'r map yma yn dangos lleoliadau'r pwyntiau gwefru yn y Deyrnas Gyfunol.
Meddai'r Cyng. ap Gwynfor: “Mae yna gyfle yma i edrych i ddatblygu pwyntiau gwefru ar draws Sir Ddinbych. Mae'n anodd iawn i gymunedau gwledig, megis y cymunedau yr ydw i'n eu cynrychioli, i symud i ffwrdd oddi wrth danwydd ffosil oherwydd fod yr isadeiledd mor affwysol o wael. Gall Cyngor Sir Ddinbych arwain y ffordd a helpu ein cymunedau i symud drosodd at drydan. Byddai hefyd yn chwarae rhan i wireddu un o uchelgeisiau'r Cyngor i leihau ei allyriadau CO2 yn ogystal.”
Oes ganddoch chi gar trydan?
Ydy o'n hawdd i chi deithio trwy ogledd Cymru gyda char trydan?
A fyddech yn fwy tebygol o brynu car trydan pe byddai yna fwy o bwyntiau gwefru ar gael?
Ysgrifennwch eich sylwadau isod a rhannwch y dtori gyda'ch ffrindiau.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter