Y profiad i ennill / the experience to win
(English below)
CLICIWCH YMA: Cefnogaeth newyddiadurwr rhygwladol
Er mwyn adennill yr etholaeth hon mae’n rhaid cael ymgeisydd profiadol sy’n gwybod sut mae rhedeg ymgyrch, cynyddu’r bleidlais, ac ennill etholiad.
Rwy wedi bod yn ymgeisydd Cynulliad a Seneddol bedair gwaith, a hynny ar gais Plaid Cymru ar ddwy achlysur, mewn etholaethau lle nad oedd gan y Blaid obaith. Llwyddais i:
- redeg ymgyrchoedd effeithiol;
- cynyddu’r bleidlais;
- cynyddu’r gwirfoddolwyr;
- a chynyddu’r aelodaeth.
Rwy wedi cynrychioli’r Blaid ar y cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys y Guardian, Mirror, Newsnight, Private Eye ac eraill, ac wedi magu rhwydwaith o gysylltiadau cryf yn y cyfryngau.
Roeddwn yn gadeirydd ymgyrch fuddugoliaethus Elfyn Llwyd yma yn 2010; ac yn asiant swyddogol i ymgyrch Ie Dros Gymru yn refferendwm 2011 gan gydweithio yn drawsbleidiol er mwyn sicrhau buddugoliaeth gampus.
Yn wir, rwy wedi ymgyrchu dros Blaid Cymru ym mhob etholiad ers 1983, ac wedi bod drefnydd ymgyrchoedd etholiadol llwyddiannus ers 1997.
Os am adennill Dwyfor-Meirionnydd, yna mae angen y profiad o:
- ymladd etholiadau;
- rhedeg ymgyrch uchel ei broffeil;
- a gwybod beth sydd angen ei wneud er mwyn ennill.
Does yna ddim amser i ddysgu.
Nid ennill profiad yw’r bwriad; rhaid cael y profiad i ennill.
Gobeithio y caf y cyfle i roi fy mhrofiad bywyd ar waith yn Nwyfor-Meirionnydd unwaith eto, ond y tro yma fel eich ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, a sicrhau fod yr etholaeth hon unwaith eto yn nwylo Plaid Cymru.
(Yn croesawi Alwyn Humphreys, ymgeisydd Seneddol y Blaid Lafur yn Nwyfor-Meirionnydd yn 2010, i Blaid Cymru)
Dros Gymru!
Mabon ap Gwynfor
CLICK HERE: Support from a respected international journalist.
In order to win here in Dwyfor-Meirionnydd we need an experienced candidate that knows how to run an election campaign, increase the vote, and win elections.
I’ve been an Assembly and Parliamentary four times, at the request of Plaid Cymru twice, and increased the vote in constituencies where we had no hope of winning. I managed to:
- run effective campaigns;
- increase the vote;
- increase the volunteer base;
- and increased membership.
I’ve represented Plaid Cymru in both international and national media, including the Guardian, Mirror, Newsnight, Private Eye and others, and developed and strong network of contacts in order to promote Plaid Cymru.
I was asked to chair Elfyn Llwyd’s victorious campaign in 2010; was an official agent for the 2011 Yes For Wales referendum campaign, working cross-party to ensure a hugely significant victory.
Indeed, I’ve been campaigning for Plaid Cymru at every election campaign since 1983, and have been an election organiser for successful election winning teams since 1997.
In order to win here in Dwyfor-Meirionnydd we need a candidate with the experience of:
- organising an election campaign;
- running a high profile campaign in the glare of the media;
- and one who knows what it takes to win.
There’s no time to learn on the job.
We need the experience to secure a Plaid Cymru victory.
I hope I get the opportunity to put my life’s experience to work here in Dwyfor-Meirionnydd once again, but this time as your National Assembly Candidate, and ensure that this constituency is once again held by Plaid Cymru.
(Welcoming Alwyn Humphreys, Labour's 2010 Parliamentary Candidate in Dwyfor-Meirionnydd to Plaid Cymru).
For Wales!