Mae Llywodraeth Llafur Cymru a Llywodraeth Ceidwadol San Steffan yn gofyn i gymunedau ar draws Cymru i ystyried caniatau i gael gwastraff niwclear wedi ei gladdu yma am swm o arian.
Bydd y deunydd ymbelydrol yma yn parhau i fod yn beryglus i'n hiechyd ac i'r amgylchedd am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Rydym yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech gan y ddwy Lywodraeth i lwgrwobrwyo ein cymunedau i dderbyn y gwastraff ymbelydrol yma.