Bydd rhai o adeiladau mwyaf eiconig Sir Ddinbych yn cael eu goleuo yn broffor er mwyn dangos cefnogaeth i ymgyrch 'Black Lives Matter' sy'n galw am ddieddu disgrimineiddio a chyddraddoldeb i bobl du ac o gefndiroedd ethnig.
Cynnigwyd y syniad gan grwp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, ac fe'i gefnogwyd gan arweinydd pob un o'r grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor.
Meddai'r Cyng. Rhys Thomas, arweinydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych: Mae'n anfoesol fod pobl yn cael eu disgrimineiddio oherwydd lliw eu croen neu eu cefndir ethnig. Rhaid i hyn newid. Mae newid yn dechrau efo ni. Mae hyn yn gam bach symbolaidd y gall y Cyngor Sir ei gymryd er mwyn dangos undod efo'r ymgyrch dros gydraddoldeb. Ond mae hefyd yn ddatganiad pwysig - rydym yn sefyll efo'r mudiad 'Black Lives Matter'.
"Mae 3,700 o drigolion Sir Ddinbych yn ddu neu yn dod o gefndir lleiafrif ethnig, ac mae pob un ohonynt yn werthfawr i'w cymuned, yn cyfoethogi eu cymuned, ac yn cyfrannu at eu cymuned yma. Mae pawb yn haeddu i gael eu tri a pharch ac urddas. Everybody deserves to be treated with dignity and respect".
Dywedodd y Cyng. Paul Penlington, Gogledd Prestatyn, a gyflwynodd y syniad yn wreiddiol, "Fe wnes i a fy nheulu fynychu y brotest BLM yn y Rhyl a chael ein hysbrydoli efo'r teimladau cryf a'r angerdd oedd yno. Mae gennym bobl o bob cefndir yn byw yma yn Sir Ddinbych, ac mae pob un yn aelod gwerthfawr o'n cymdeithas. Fel Cyngor a Chynghorwyr rydym yn cynrychioli pawb sy'n byw yma, felly pan fo rhywun yn cael ei disgrimineiddio y peth iawn i'w wneud ydy sefyll ochr yn ochr gyda nhw, a dangos ein bod ni'n eu gwerthfawrogi fel aelodau cyfartal o'n cymdeithas."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter