Dewiswyd Cynghorydd Sir o Ddinbych i sefyll ar ran Plaid Cymru yn etholiad seneddol nesaf Dyffryn Clwyd.
Dywedodd Glenn Swingler, sy’n cynrychioli Dinbych Uchaf a Henllan, ei fod eisiau “gwneud Cymru yn greiddiol” i benderfyniadau ar faterion yn cynnwys tlodi plant, ariannu addysg, banciau bwyd a’r argyfwng digartrefedd.
Dywedodd y gweithiwr cynnal iechyd meddwl fod y Torïaid, Y Blaid Lafur a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi “ein gadael i lawr ers degawdau”. Disgwylir iddo arddel galwad Plaid Cymru am annibyniaeth yn ystod ei ymgyrch i ddisodli’r AS Llafur Chris Ruane yn yr Etholiad Cyffredinol arfaethedig.
Mewn datganiad yn cyhoeddi ei fod yn sefyll dywedodd “Mae’r Torïaid, Llafur a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi ein gadael i lawr. Mae San Steffan wedi ein gadael i lawr. Mae’n amser i droi’r drol. Gwnewch i Gymru gyfrif. Yn yr etholiad cyffredinol nesaf pleidleisiwch dros Blaid Cymru i greu Cymru newydd a dyfodol gwell.”
Mae Mr Swingler yn disgrifio ei hun fel “rhyng-genedlaetholwr”. Bu’n byw yn Sbaen am wyth mlynedd ar ôl gweithio yn Y Rhyl fel galwr Bingo a Dinbych fel postmon. Dychwelodd i Ddinbych, gyda ei wraig a’u dau blentyn, a buont yn byw yno ers 10 mlynedd. Er yn wreiddiol o Gaint dywedodd Mr Swingler: “Gydol yr amser ‘roedd yn glir y byddem yn dod gartref i ogledd Cymru.”
“Chefais i ddim fy ngeni yng Nghymru ond ‘rwyn ystyried fy hun yn Gymro.”
Mae ganddo brofiad lleol eang fel llywodraethwr Ysgol Gynradd Pendref ac is-gadeirydd Prosiect Ieuenctid Dinbych yn ogystal a bod yn Gynghorydd Tref.
Dangos 2 o ymatebion
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter