Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi cynnig i wrthwynebu argymhellion Llywodraeth Cymru ar ddyfodol amaethyddiaeth oherwydd pryderon y byddant yn niweidiol i economi y Sir.
Cyflwynodd y grwp Plaid Cymru gynnig yn galw ar i Sir Ddinbych "wrthwynebu argymhellion Llywodraeth Cymru tan eu bont yn cyhoeddi asesiadau manwl a thrylwyr o'r effaith potensial ar economi a swyddi yn y sir".
Dywedodd y Cyng. Mabon ap Gwynfor: “Mae'r cynnig yma yn ymwneud ag amaeth yng Nghymru yn dilyn Brexit. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y mater gyda phapur o'r enw Brexit a'n Tir. Fel rhan o'r ymgynghoriad maent yn argymell cael gwared ar daliadau uniongyrchol i ffermwyr. Mae nifer fawr o'n ffermwyr yn ddibynol ar y taliadau yma, yn wir mae 80% o ffermwyr da byw yn gwbl ddibynol arnynt er mwyn medru byw a chynnal eu busnes.
“Pan edrychodd Llywodraeth Cymru ar newid y drefn arianu rhai blynyddoedd yn ol fe wnaethon nhw gyhoeddi papurau manwl ar yr effaith ar ryr economi. Ond y tro yma nid ydynt wedi darparu unrhyw fodeli ar pa effaith y bydd eu cynnigion yn ei gael ar yr economi leol na chenedlaethol. Mae ffermio yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ein heconomi yma yn Sir Ddinbych. Mae tua 15% o bobl sydd mewn gwaith yn ward Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, er engrhaifft, yn gweithio yn y diwydiant amaeth. Mae peryg i'r newidiadau yma gael effaith andwyol ar ein economi, ac mae'n rhaid i ni weld beth yw'r effaith tebygol cyn i'r Llywodraeth weithredu unrhyw newidiadau.
“Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Gynghorwyr am gefnogi'r cynnig".
Dywedodd y Cyng. Mark Young, Dinbych Isaf, "Mae'r ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi dweud nad ydy hi'n gwybod beth fydd effaith Brexit felly pam, ar yr adeg mwyaf anwadal i ffermwyr, ei bod hi wedi mynnu cael ymgynghoriad ar y newidiadau mwyaf radical i'r diwydiant amaethyddol mewn hanner canrif, a hynny pan nad ydym yn gwybod beth fydd pris Brexit; nad ydym yn gwybod beth fydd y telerau masnach; beth fydd y tollau ar fwyd; nac ychwaith pa reoliadau y bydd ffermwyr yn eu hwynebu? Nid ydym chwaith yn gwybod beth fydd yn digwydd os fydd San Steffan yn gwrthwynebu'r cytundeb, nac ychwaith beth fydd y cyllid datblygu fyd ar gael i Gymru o Lundain yn dilyn Brexit.
“Mae hwn yn ddiwydiant anferthol i Sir Ddinbych a gogledd Cymru. Mae nifer o fusnesau yma yn cael budd o'r drefn bresenol. Bydd y newidiadau yma yn tynnu miliynau o bunnoedd allan o'n heconomi, ac yn cael effaith anferthol ar yr iaith. Bydd yn golygu na all ffermwyr Cymru fod yn gystadleuol gyda gweddill gwledydd y Deyrnas Gyfunol nac ychwaith Erwop. Mae'n ddogfen wael a diog."
Dywedodd y Cyng. Martyn Holland: “Pan nad yw'r ddel derfynol ar Brexit wedi cael ei gytuno; pan nad ydym yn gwybod beth sy'n digwydd; pam fod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau cyn gwybod beth ydy'r ffugurau a ffeithiau?"
Gallwch weld y drafodaeth yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter