Plaid yn cyhuddo'r Cabinet o gadw gwybodaeth gyhoeddus yn gyfrinachol

Mae Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych wedi galw ar i'r Cabinet yno fod yn fwy tryloyw a llai chyfrinachol wrth baratoi cyllideb y Cyngor. Mae'r Blaid hefyd wedi galw am Gyllideb Y Bobl, gan fynnu y dylai'r cyhoedd gael fwy o ddweud yn y broses.  

Yn dilyn sesiwn friffio ar y gyllideb i aelodau y Cyngor a gynhaliwyd yn ddiweddar, ysgrifennodd arweinydd grwp Plaid Cymru, y Cyng. Arwel Roberts, at arweinydd y Cyngor, y Cyng. Hugh Evans, yn mynegu siom na gynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad gyda'r cyhoedd, ac fod trafodaethau a ddylai wedi bod yn gyhoeddus wedi cael eu cynnal yn gyfrinachol. 

Meddai'r Cyng. Roberts: "Mae'r Ceidwadwyr ac Annibynwyr sydd yn rhedeg y Cyngor wedi son sawl gwaith fod yna benderfyniadau anodd o'u blaenau. Er hynny mae nhw wedi methu yn llwyr ag ymgynghori gyda phobl y Sir ynghylch unrhyw ran o'r gyllideb hyd yma. 

"Pan fyddant yn cyhoeddi ei bwriadau bydd pobl Sir Ddinbych yn cael braw, ac mae hynny'n hollol ddealladwy. Ond nid yw'r Cabinet yma wedi gwneud unrhyw ymdrech i gynnwys trigolion y Sir, nac ychwaith i hyd yn oed eu hysbysu o'u bwriadau. Mae hyn yn fethiant elfenol. 

“Rydym yn delio gyda phres a gwasanaethau pobl Sir Ddinbych. Mae ganddynt hawl i fod yn rhan o'r broses. Mae Cyngor Wrecsam wedi cynnal ymgynghoriad eang ar eu hargymhellion hwy, tra fod Conwy wedi bod yn agored a thrylowy yn eu trafodaethau. Ond yma yn Sir Ddinbych mae'r cyfan wedi bod y tu ol i ddrysau caeedig. Wnaiff hyn ddim o'r tro. 

"Dylai'r cyhoedd gael chwarae rhan ganolog yn y broses Mae angen Cyllideb y Bobl arnom, a llais y bobl yn ganolog i'r cyfan. 

"Dyna pam yr ydym yn galw ar i'r Cabinet i gyhoeddi eu hargymhellion er mwyn i'r cyhoedd gael eu sgriwtineiddio a mynegu eu barn."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.