Mae'r cwmni diogelwch a glendyd amgylcheddol, Kingdom Security, wedi cyhoeddi eu bod nhw am ddirwyn eu cytundeb yn Sir Ddinbych i ben ym mis Awst.
Dywedodd arweinydd Grwp Plaid Cymru ar Sir Ddinbych: "Mae Plaid Cymru wedi galw ar i'r cytundeb yma ddod i derfyn ers talwm. Mae'r dystiolaeth yma yn Sir Ddinbych yn dangos fod Kingdom yn gwneud eu pres trwy dargedu ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, gan dargedu ysmygwyr ond heb lwyddo i fynd i'r afael a baw cwn, sef y rheswm ddaru nhw gael eu cyflogi yn y lle cyntaf.
"Mae Plaid Cymru am weld strydoedd glan yn y Sir, ond rydym yn credu fod posib gwneud hyn drwy ddefnyddio ein staff ein hunen mewn modd wedi ei dargedu'n well a mwy sensitif heb gael ein cyflyrru gyda'r angen i greu arian.
“Rydym wedi galw ar i'r cytundeb ddod yn ol i ddwylo cyhoeddus. Fe wnaethom ni godi'r posibilrwydd o'r Cyngor yn dod a'r gwasanaeth yn ol i a chydweithio gyda Chynghorau eraill ar ddiwedd yr haf diwethaf. Y syniad yw cael Cynghorau Sir y rhanbarth i gydweithio er mwyn gwella ansawdd glendid ein cymunedau. Gobeithio y gwelwn ni'r syniad yma'n dwyn ffrwyth rwan."
Mae Plaid Cymru yn anog Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i geisio osgoi diswyddiadau trwy greu adran glendid strydoedd ar y cyd fydd yn atebol i'r Cynghorau.
Datganiad Cyngor Sir Ddinbych:
Mae Grŵp Kingdom Services wedi hysbysu Cyngor Sir Ddinbych am eu bwriad i dynnu gwasanaethau yn ôl yn y sir o Awst 17eg, 2018, yn unol â'u rhybudd cytundeb 28 diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai, Gwasanaethau Rheoleiddio a'r Amgylchedd: "Mae'r Grŵp wedi cydweithio gyda’r Cyngor i ddelio â materion amgylcheddol megis sbwriel a baw cwn dros y pum mlynedd diwethaf, mewn ymateb i ymdrechion y Cyngor i wneud ei strydoedd yn lanach a chreu amgylchedd dymunol i bobl fyw ynddi ac ymweld â nhw.
"Mae'r gwaith ar y cyd wedi cael effaith o ran ymwybyddiaeth a bu gostyngiad amlwg yn nifer y digwyddiadau sbwriel a baw cŵn.
"Tra'n siomedig, rhaid inni barchu penderfyniad y cwmni a hoffwn ddiolch iddynt am eu cydweithrediad dros y pum mlynedd diwethaf.
Bydd y Cyngor nawr yn ystyried sut y bydd y gwaith addysg a gorfodi amgylcheddol yn parhau yn y dyfodol ac mae cadw strydoed y sir yn daclus yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter