Mae Plaid Cymru ar Sir Ddinbych wedi gwneud cais i’r Cyngor Sir edrych ar y mater o wariant ychwanegol sydd ei angen ar bont newydd Harbwr y Rhyl.
Daeth i’r amlwg yr wythnos diwethaf fod angen i’r Cyngor Sir wario £60,000 yn rhagor ar y bont newydd yn Rhyl eleni am na wiriwyd os oedd y cytundeb gwreiddiol yn cynnwys gwaith cynnal a chadw. Bydd angen i’r Cyngor gael hyd i’r pres allan o gyllideb sydd eisioes yn dynn.
Dywedodd plaid Cymru fod yn rhaid dysgu gwersi o hyn er mwyn sicrhau na fyddai’r camgymeriad yn cael ei hail adrodd yn y dyfodol.
Meddai Mabon ap gwynfor, sydd ar Bwyllgor Llywodraethiant Corfforaethol y Cyngor, sy’n sgriwtinieiddio materion arianol yr Awdurdod: “Mae’n rhyfeddol fod sefyllfa wedi codi lle na wiriwyd os oedd costau cynnal a chadw y bont unigryw yma yn rhan o’r cytundeb. Mae hyn yn golygu costau sylweddol ychwanegol I’r Awdurdod, ar adeg pan fod pethau eisioes yn hynod o dynn.
“Rhaid gofyn y cwestiwn, a fyddai’r cwmni wedi cael y cytundeb gwreiddiol os fyddai’r holl bris wedi bod yn wybyddus? Ydy hyn yn gost fydd yn gorfod cael ei dalu eto? Pwy adran sydd am golli allan eleni oherwydd hyn? Rhaid sicrhau fod gwersi’n cael eu dysgu.
“Dyna paham rydym ni wedi gofyn i’r mater gael ei alw i fewn a’i hystyried yn drwyadl gan un o’r pwyllgorau craffu.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter