Croesawu tro pedol i ariannu 'SchoolBeat'

Mae'r newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi gwirdroi eu penderfyniad i beidio ag ariannu cynllun cysylltu gydag ysgolion wedi cael ei groesawu gan Blaid Cymru. 

Ymgyrchodd Plaid Cymru er mwyn cadw'r cyswllt rhwng yr Heddlu ac ysgolion yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ddirwyn yr ariannu i ben. 

Dywedodd Mr Gruffydd: “Pan gyhoeddwyd hyn yn wreiddiol, fe wnaethom ni ddadlau y byddai torri ymweliadau yr Heddlu i'n hysgolion yn gam yn ol ac y byddai'n arwain at genhedlaeth o blant yn colli allan ar gyngor a gwybodaeth holl bwysig yn ymwneud a phynciau megis secstio, trais yn y cartref, camdrin sylweddau, diogelwch ar-lein a materion eraill sy'n wynebu plant heddiw."

Mae'r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, sy'n cael ei hadnabod fel SchoolBeat, yn cael ei gyd-ariannu rhwng Llywodraeth Cymru a'r Heddlu, ac yn sicrhau fod swyddogion o'r heddlu yn ymweld ag ysgolion ar draws y wlad gan siarad i blant o 4 i 16eg.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, y byddai torri ar y rhaglen yn arwain at genhedlaeth o blant yn colli allan ar wybodaeth angnrheidiol. 

"Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi gwneud tro-pedol gan ei fod yn bwysig fod yr heddlu yn magu perthynas gyda phlant o bob cefndir ar draws Cymru ac yn siarad gyda nhw'n uniongyrchol ynghylch y materion yma. Mae'n llawer gwell atal rpethau rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac rwy'n gwbl argyhoeddiedig fod y rhaglen yma yn gwneud lot o ddaioni ac yn arbed trafferthion yn y dyfodol.  

"Mae'r Comisynwyr Heddlu wedi gwneud gwaith gwych i sicrhau fod y rhaglen yma yn cael blwyddyn arall o ariannu, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddangos cefnogaeth y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf hefyd. 

Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwy'n croesawi'r penderfyniad yma yn fawr sy'n fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeh y Comisiynwyr eraill a Llyr Gruffydd.

“Ond mae'n bwysig cofio mai dim ond sicrhau ariannu am flwyddyn arall sydd yma, ac yn hynny o beth dim ond buddugoliaeth dros dro yw hyn, felly byddwn yn parhau a'r ymgyrch er mwyn sicrhau fod y rhaglen yn parhau i'r hir-dymor. 

“Does dim pwysicach na diogelwch plant a phobl ifanc ac mae hwn yn flaenoriaeth yn fy nghynlluniau Heddlua a Throsedd. 

“Mae plant heddiw yn wynebu nifer fawr o beryglon yn eu bywydau dyddiol yn enwedig ar-lein, felly mae'n holl bwysig eu bod nhw'n deall peryglon y we o oedran ifanc iawn.

“Mae'r criw SchoolBeat yn gwneud gwaith rhagorol yn arbed plant rhag dod yn ddioddefwyr trwy wneud yn siwr fod ganddyn nhw'r wybodaeth a'r sgiliau i'w cadw'n ddiogel. Rwy'n mawr obeithio y gwnaiff hyn barhau." 

Dywedodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Dyfrdwy, a gododd bryderon ynghylch y ffaith fod y rhaglen yn dirwyn i ben: "Mae ein hysgol yn gwerthfawrogi SchoolBeat yn fawr. Mae'n cyflawni tasg holl bwysig yn dysgu ein plant am beryglon sy'n aml yn cael eu hanwybyddu. Mae hefyd yn cyd-blethu'n berffaith gyda gwaith gwych ein staff dysgu yn yr ysgol. 

"Pan glywsom fod y rhaglen yn dirwyn i ben fe wnaethom gysylltu'n syth gyda'n Aelod Cynulliad, Llyr Gruffydd, a chyda'r Comisiynydd Heddlu, Arfon Jones, a rhannu ein pryderon. Maen nhw wedi bod yn wych yn ymgyrchu ar ran holl blant Cymru ac wedi mynd allan o'u ffordd i'n hysbysu ni o'r datblygiadau. 

"Mae angen sicrwydd arnom ni fod y prosiect yma am barhau y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. Rwy'n anog y Llywodraeth i barhau i ariannu SchoolBeat, gan ei fod yn broseict mor bwysig sy'n cyflawni llawer am ychydig iawn o fuddsoddiad." 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.