Mae Llywodraeth Cymru eisiau cael gwared â llais annibynnol cleifion y GIG yng ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor Iechyd Cymunedol yn cynrychioli cleifion a'u teuluoedd yn ogystal â chynnal ymweliadau ward dirybudd a chefnogi staff dan bwysau. Mae Llywodraeth Cymru eisiau cau'r mudiad llawr gwlad yma a chreu corff â llond llaw a ddewiswyd gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd.
Mae angen i ni gadw ein llais annibynnol ar gyfer cleifion yma yn y Gogledd.